Rydyn ni i gyd yn gwybod bod meddwl iach yn bwysig dros ben, ond sut mae gwneud yn siwEr ein bod ni'n gofalu am ein hiechyd meddwl o oedran ifanc iawn? Mae Beth Sy'n Digwydd Yn Fy Mhen? yn llyfr i blant sy'n edrych ar ffyrdd ymarferol o gadw ein meddwl, yn ogystal a'n corff, mewn cyflwr da.Drwy drafod hunanddelwedd gadarnhaol, deallusrwydd emosiynol, perthnasoedd a meddylgarwch, mae'r llyfr yn annog plant i ddatblygu arferion iach a dulliau i'w helpu i ymdopi o'r dechrau'n deg. Bydd yn helpu i sefydlu sylfeini cadarn ar gyfer lles pob plentyn, nawr ac yn y dyfodol, a hynny mewn ffordd gyfeillgar, ddi-lol ac addas i blant. Mae Beth Sy'n Digwydd Yn Fy Mhen? yn ffordd ddelfrydol o daro sgwrs a phlant am eu lles meddyliol ac emosiynol ac yn hanfodol I unrhyw riant sy'n deall pwysigrwydd cynnal meddwl iach.
Dieser Download kann aus rechtlichen Gründen nur mit Rechnungsadresse in A, B, BG, CY, CZ, D, DK, EW, E, FIN, F, GR, HR, H, IRL, I, LT, L, LR, M, NL, PL, P, R, S, SLO, SK ausgeliefert werden.