19,99 €
inkl. MwSt.
Versandkostenfrei*
Versandfertig in 1-2 Wochen
payback
10 °P sammeln
  • Broschiertes Buch

(New edition of the poems of Welsh-language poet Alun (John Blackwell)) "Er dichon fod ei chalon wan Yn delwi dan y dulid, Ni chwyna, i flino'i hannwyl rai,- Ei gwên a guddia'i gofid: Ni pheidia'i chân trwy ddunos faith, Nes gweled gobaith golau Yn t'wynnu, megis llygad aur, Trwy bur amrantau'r bore." Roedd Alun, a defnyddio enw barddol y brodor o'r Wyddgrug John Blackwell (1797-1840), yn un o feirdd Cymraeg mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd rhan gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er nad oes dim ond cymharol ychydig o'i waith wedi goroesi, ystyrir ef yn ddolen gyswllt bwysig yn natblygiad y…mehr

Produktbeschreibung
(New edition of the poems of Welsh-language poet Alun (John Blackwell)) "Er dichon fod ei chalon wan Yn delwi dan y dulid, Ni chwyna, i flino'i hannwyl rai,- Ei gwên a guddia'i gofid: Ni pheidia'i chân trwy ddunos faith, Nes gweled gobaith golau Yn t'wynnu, megis llygad aur, Trwy bur amrantau'r bore." Roedd Alun, a defnyddio enw barddol y brodor o'r Wyddgrug John Blackwell (1797-1840), yn un o feirdd Cymraeg mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd rhan gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er nad oes dim ond cymharol ychydig o'i waith wedi goroesi, ystyrir ef yn ddolen gyswllt bwysig yn natblygiad y traddodiad telynegol Cymraeg. Mae'r detholiad hwn o'i waith yn cynnwys mwyafrif helaeth y cerddi o'i eiddo sy'n hysbys; gan gynnwys yr awdlau enillodd iddo sawl gwobr mewn Eisteddfodau taleithiol yr 1820au, nifer o englynion, ynghyd â'i gerddi yn y mesurau rhydd, sef y gweithiau daeth yn fwyaf adnabyddus amdanynt.