(First publication in over a century of the poetry of Welsh Socialist Pioneer R. J. Derfel) Cwyn y Gweithwyr a Cherddi Eraill R. J. Derfel "Tra byddo ein gwlad o gwr i gwr Yn eiddo arglwyddi tir, Na chaned Cymro wladgarol gerdd, Heb ynddi frawddeg o wir; Yn hytrach datganer rhyfel gân, I gasglu y Cymry ynghyd; I ymladd â'r gelyn am y tir, Nes ennill y wlad i gyd." Roedd Robert Jones Derfel (1824-1905) yn fardd, traethodydd, llyfrwerthwr a chyhoeddwr, ac fe'i cofir yn bennaf heddiw fel cenedlaetholwr cynnar ond yn anad dim fel un o arloeswyr y mudiad Sosialaidd yng Nghymru. Yn hytrach na chystadlu mewn Eisteddfodau, defnyddiodd ei farddoniaeth er mwyn amlygu gwirioneddau anodd Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg:tlodi, anghydraddoldeb, hawliau gweithwyr, a thriniaeth merched. Y detholiad yma o'i farddoniaeth yw'r cyntaf i gael ei gyhoeddi ers dros canrif. Wedi'i gynnwys hefyd mae rhagymadrodd gan D. Ben Rees, sydd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar dreftadaeth sosialaidd Cymru.
Bitte wählen Sie Ihr Anliegen aus.
Rechnungen
Retourenschein anfordern
Bestellstatus
Storno







