(Welsh translation of the stories of H. P. Lovecraft) 'Nid marw yw'r sawl a huna'n fythol brudd; Daw tranc marwolaeth, hyd yn oed, ryw ddydd.' Yr Americanwr H. P. Lovecraft yw un o lenorion pwysicaf meysydd ffuglen arswyd, ffuglen wyddonol a ffantasi. Fel yn achos Orwell a Kafka, mor wreiddiol a neilltuol yw ei arddull a'i destunau fel y bathwyd yr ansoddair Lovecraftaidd i ddisgrifio ffuglen yn yr un genre. Mae ei straeon yn gyforiog o ddirgelwch a chyffro. Ceir ynddynt gyfrinachau sydd yn llechu ar wely'r môr... siambrau tywyll ymhell islaw'r ddaear... hen lyfrau'n cuddio cyfrinachau oes... a chreaduriaid erchyll sydd y tu hwnt i amgyffred pobl! Dyma'r tro cyntaf i ffuglen Lovecraft ymddangos yn y Gymraeg. Mae'r casgliad yn cynnwys pump o straeon enwocaf yr awdur gan gynnwys Galwad Cthulhu, stori fythgofiadwy a gyflwynodd i'r byd yr anghenfil tentaclog o'r sêr, Cthulhu. Y cyfeiithydd, Peredur Glyn, yw awdur Pumed Gainc y Mabinogi a Cysgod y Mabinogi, gweithiau wedi'u hysbrydoli'n uniongyrchol gan waith H. P. Lovecraft.
Bitte wählen Sie Ihr Anliegen aus.
Rechnungen
Retourenschein anfordern
Bestellstatus
Storno