18,99 €
inkl. MwSt.

Versandfertig in über 4 Wochen
payback
9 °P sammeln
  • Broschiertes Buch

(The collected poems of Welsh poet W. J. Gruffydd (1871-1954)) "Fe ddaw eu tro'n ddiogel - ond pa waeth? Ni leddfir tinc y chwerthin melys rhydd; Ni ddelir adain maboed un yn gaeth Wrth gofio am drueni'r meirwon prudd, A'u dwylo'n groesion, yn eu gwely gro." William John Gruffydd oedd un o ffigurau cyhoeddus mwyaf blaenllaw'r byd Cymraeg yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Roedd yn un o ysgolheigion mwyaf dylanwadol ei oes ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn olygydd papur newydd Y Llenor am ddegawdau, a bu'n enwog hefyd am ei gystadleuaeth wybyddol a gwleidyddol gyda Saunders Lewis, a…mehr

Produktbeschreibung
(The collected poems of Welsh poet W. J. Gruffydd (1871-1954)) "Fe ddaw eu tro'n ddiogel - ond pa waeth? Ni leddfir tinc y chwerthin melys rhydd; Ni ddelir adain maboed un yn gaeth Wrth gofio am drueni'r meirwon prudd, A'u dwylo'n groesion, yn eu gwely gro." William John Gruffydd oedd un o ffigurau cyhoeddus mwyaf blaenllaw'r byd Cymraeg yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Roedd yn un o ysgolheigion mwyaf dylanwadol ei oes ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn olygydd papur newydd Y Llenor am ddegawdau, a bu'n enwog hefyd am ei gystadleuaeth wybyddol a gwleidyddol gyda Saunders Lewis, a ddaeth i'w hanterth yn ystod isetholiad sedd Prifysgol Cymru yn 1943, a enillwyd gan Gruffydd. Fel bardd, fodd bynnag, daeth Gruffydd i'r amlwg yn gyntaf, a hynny'n llanc ugain oed pan gyhoeddwyd Telynegion, ei gydweithrediad gydag R. Silyn Roberts. Ystyrir ef o hyd yn un o feirdd mawr y dadeni mewn barddoniaeth Cymraeg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, ac er bod detholiadau lawer wedi'u gwneud o'i waith, y gyfrol hon yw'r ymgais cyntaf i gasglu ynghyd holl weithiau barddonol cyhoeddedig y bardd.