5,99 €
inkl. MwSt.
Sofort per Download lieferbar
payback
3 °P sammeln
  • Format: ePub

Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill (eLyfr)
Eben Fardd
Eben Fardd oedd enw barddol adnabyddus Ebenezer Thomas (1802-1863). Yn enedigol o Lanarmon, Gwynedd, gweithiodd fel athro mewn nifer o ysgolion yn Eifionydd a Llyn, ac mewn mân swyddi eraill.
Roedd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth yn amlwg o'n gymharol ifanc, a daeth ei lwyddiant eisteddfodol cyntaf yn 1824 pan enillodd cadair Eisteddfod Powys yn y Trallwng, gyda'i awdl Dinistr Jerusalem , ei gerdd fwyaf ac enwocaf. Daeth llwyddiannau niferus eraill iddo mewn eisteddfodau rhanbarthol dros y degawdau nesaf; roedd hefyd yn emynydd o…mehr

  • Geräte: eReader
  • ohne Kopierschutz
  • eBook Hilfe
  • Größe: 4.48MB
Produktbeschreibung
Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill (eLyfr)

Eben Fardd

Eben Fardd oedd enw barddol adnabyddus Ebenezer Thomas (1802-1863). Yn enedigol o Lanarmon, Gwynedd, gweithiodd fel athro mewn nifer o ysgolion yn Eifionydd a Llyn, ac mewn mân swyddi eraill.

Roedd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth yn amlwg o'n gymharol ifanc, a daeth ei lwyddiant eisteddfodol cyntaf yn 1824 pan enillodd cadair Eisteddfod Powys yn y Trallwng, gyda'i awdl Dinistr Jerusalem, ei gerdd fwyaf ac enwocaf. Daeth llwyddiannau niferus eraill iddo mewn eisteddfodau rhanbarthol dros y degawdau nesaf; roedd hefyd yn emynydd o fri. Bu farw ond ychydig flynyddoedd ar ôl sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol ac nid enillodd yr un o brif wobrau'r sefydliad hwnnw, er iddo gystadlu'n aflwyddiannus yn Eisteddfod 1862 gyda'i awdl Y Flwyddyn.

Eben Fardd oedd un o feirdd Cymraeg mwyaf a phwysicaf ei oes: yng ngeiriau Thomas Parry, "gellir dweud fod ynddo fwy o anianawd y gwir fardd nag odid neb o feirdd eisteddfodol y bedwaredd ganrif ar bymtheg." Gwelir yn ei waith cynnar uchafbwynt clasuriaeth ddisgrifiadol y Gymraeg, ac yn ei waith diweddarach dechrau Rhamantiaeth.


Dieser Download kann aus rechtlichen Gründen nur mit Rechnungsadresse in A, D ausgeliefert werden.