Ar ôl mwy na deng mlynedd ar hugain o fod yn gweinidogaethu fel caplan, yn gweithio ym myd addysg a gweithio ym maes iechyd cyhoeddus mae John Sam Jones bellach wedi lled-ymddeol ac yn byw gyda'i wr a'u dau gi defaid Cymreig mewn pentref bach yn yr Almaen, dafliad carreg o'r ffin â'r Iseldiroedd. Sylweddolodd John ei fod yn hoyw pan oedd yn ei arddegau yn y 1970au a dod i ddeall yn fuan y byddai'n byw ei fywyd ar y ffiniau - y ffin rhwng gwir a chelwydd, y ffin rhwng cael ei wrthod a chael ei watwar, y ffin rhwng amau'i hun a'i daith i gael ei dderbyn. Yn y diwedd dewisodd gerdded llwybr lle nad oedd ei onestrwydd a'i ddiffuantrwydd bob tro'n cael ei werthfawrogi gan gymdeithas a oedd yn aml yn chwyrn o homophobig. Yn 2001 ef oedd cyd-gadeirydd cyntaf LGB Forum Cymru (a ddaeth yn ddiweddarach yn Stonewall Cymru), corff a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion LGB.
Dieser Download kann aus rechtlichen Gründen nur mit Rechnungsadresse in A, B, BG, CY, CZ, D, DK, EW, E, FIN, F, GR, H, IRL, I, LT, L, LR, M, NL, PL, P, R, S, SLO, SK ausgeliefert werden.