Testun llawysgrif o'r 16g. ynghyd ag astudiaeth o enwau llysiau ynddo neu o gyswllt iddo. Prif awdur y llawysgrif ydyw William Salesbury - polymath blaenaf Cymru. Trafodir y ffynonellau i'r testun (gweithiau Leonard Fuchs a William Turner). Casglwyd hefyd enwau Cymraeg o'r cyfnod 1400 i 1700, a cheir rhestr atodol ddethol o'r hyn a gafwyd. Y mae'r rhagymadrodd yn ogystal yn cloriannu rhywfaint o wybodaeth am William Salesbury ei hun. Mae yma hefyd eirfa ddethol fer o eiriau anllysieuol sydd yn y testun. Fodd bynnag rhan fawr o'r llyfr ydyw'r darn sy'n olrhain a chloriannu enwau planhigion Cymraeg mewn penodau byrion yn ymdrin a thras a chyd-destun yr enwau hynny.				
				
				
			Bitte wählen Sie Ihr Anliegen aus.
Rechnungen
Retourenschein anfordern
Bestellstatus
Storno







